Datganiad cyfryngau  ar gyfer y Fforwm Rhyng seneddol ar Brexit

 

Mae Tŷ’r Cyffredin wedi cynnal yr wythfed Fforwm Rhyng-seneddol ar Brexit. Mae’r Fforwm yn darparu cyfle ar gyfer deialog ryng-seneddol rhwng y deddfwrfeydd yn y Deyrnas Unedig, i gefnogi gwaith craffu mwy effeithiol ar faterion sy’n ymwneud ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfarfu cynrychiolwyr pwyllgorau sy'n craffu ar faterion yn ymwneud â Brexit yn Senedd yr Alban, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i drafod y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r gwaith o ddatblygu fframweithiau cyffredin. Yn anffodus, nid oedd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu bod yn bresennol y tro hwn. Roedd swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedyddion.

Cytunodd yr aelodau ar lythyr ar y cyd at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove, ynglŷn â rôl graffu Senedd y DU a'r seneddau datganoledig a'i wahodd i fod yn bresennol yng nghyfarfod y fforwm mewn cyfarfod yn y dyfodol. Trafododd y Fforwm hefyd rôl sefydliadau datganoledig wrth drafod cytundebau rhyngwladol. Rhoddodd Arabella Lang, Canolfan Senedd a Chytuniadau Tŷ'r Cyffredin, ac Eleanor Hourigan, Cwnsler ar y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol, gyflwyniad ar y system gyfredol o graffu ar y cytuniadau a chynigion ar gyfer diwygio.

Cytunodd y cyfranogwyr ar y datganiad a ganlyn ar ôl y cyfarfod o’r Fforwm:

"Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y broses Brexit yn datblygu. Cryfder y Fforwm yw ei allu i ddod ag Aelodau o wahanol gefndiroedd gwleidyddol o bob rhan o'r DU ynghyd i drafod cwestiynau pwysig yn ymwneud â Brexit a datganoli. Mae'r Fforwm wedi ysgrifennu at Ganghellor newydd Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove, i ailadrodd argymhellion y Fforwm ar gyfer Senedd y DU a'r seneddau datganoledig i gael rôl wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol fel rhan o adolygiad Cyd-bwyllgor y Gweinidogion.

“Cawsom drafodaeth gynhyrchiol ar bwysigrwydd datblygu mecanweithiau gwell ar gyfer craffu seneddol ar lywodraethau wrth iddynt drafod cytundebau rhyngwladol a chytundebau eraill yn y dyfodol gan gynnwys pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn amserol ac yn rheolaidd mewn perthynas â mandad negodi llywodraethau'r DU.

“Cytunodd y Fforwm fod craffu seneddol ar gytuniadau rhyngwladol yn fater i bob un o ddeddfwrfeydd y DU ac maent wedi gofyn i swyddogion ystyried modelau ar gyfer craffu ar draws y deddfwrfeydd.

“Rydym yn bwriadu cyfarfod eto yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019.


 

Aelodau’n bresennol

Tŷ’r Cyffredin

Syr Bernard Jenkin AS, y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol

Syr Patrick McLoughlin AS, y Pwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd

Syr William Cash AS, y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd

 

Tŷ’r Arglwyddi

Iarll Kinnoull, Pwyllgor yr UE

Yr Arglwydd Jay o Ewelme, Pwyllgor yr UE

Yr Arglwydd Blencathra, Cadeirydd y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddiol

Yr Arglwydd Kirkwood o Kirkhope, y Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth

 

Senedd yr Alban

Joan McAlpine ASA, Cynullydd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol

Claire Baker MSP, Dirprwy Gynullydd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol

Bruce Crawford ASA, Cynullydd y Pwyllgor Cyllid a’r Cyfansoddiad

Adam Tomkins ASA, Dirprwy Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad

Swyddogion

 

Roedd swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn bresennol fel sylwedyddion.